Roeddwn yn un o'r gwesteion ar raglen fyw "@ebion" ar Radio Cymru heddiw. Gallwch wrando arni fan hyn, a bydd yn cael ei hail-ddarlledu nos Wener am 9.
Priodasau cyfartal oedd y pwnc, a'r gwesteion eraill oedd Bethan Marlow ac Adrian Morgan. Adrian oedd yn siarad yn erbyn, yn erbyn dau o blaid.
Nid oeddwn yn teimlo'n nerfus o gwbl o flaen llaw (fy mhrif bryder oedd y perygl i mi regi), ond rhaid cyfaddef i don o nerfusrwydd lifo drosof wedi i mi eistedd lawr yn y stiwdio. Mae hynny i'w glywed ar y dechrau, ond teimlais yn fwy cyfforddus gydag amser.
Roedd dadlau ag Adrian yn brofiad rhwystredig iawn, mae'n rhaid dweud. Gofynnwyd fwy nag unwaith iddo am ateb i gwestiwn digon syml: sut yn union y mae caniatáu priodasau cyfartal yn mynd i darfu ar ei fywyd yntau? Yn anffodus, nid oedd ganddo rhyw lawer i'w gynnig heblaw am y jargon diwinyddol cyfarwydd (nid wyf ar frys i glywed yr ymadrodd "cyfamod ger bron Duw" eto'n fuan): siarad a siarad (a siarad) heb ddweud unrhyw beth o werth oedd hyn. Llenwi'r amser oedd yr unig amcan, hyd y gwelaf i.
Fe ddisgrifiodd y nodweddion sy'n diffinio perthynas rhwng gŵr a gwraig (yn ei dyb ef), ond pan ofynnwyd iddo egluro sut yn union y mae perthynasau cyfunrywiol yn wahanol yn hynny o beth, ni chafwyd ateb ystyrlon i hynny chwaith. A dweud y gwir, hoffwn gynnig medal i unrhyw un sy'n gallu deall ei ymdrech i gysoni ei gefnogaeth honedig i'r egwyddor o gydraddoldeb ar un llaw a'i ddyhead i wrthod hawliau cyfartal i gyplau hoyw ar y llaw arall.
Efallai y dylwn fod wedi bod yn fwy ymosodol a thorri ar draws yn amlach. Rwy'n ymwybodol bod hynny'n gallu bod yn bla mewn trafodaethau radio, gan amharu ar lif y sgwrs, ond mae angen gwneud weithiau pan mae un person yn gwastraffu cymaint o amser gyda geiriau gwag. Er enghraifft, rwy'n difaru peidio ymateb pan awgrymodd Adrian bod ei reddfau naturiol o bryd i'w gilydd yn peri iddo gael ei demtio i fynd yn groes i ewyllys ei dduw. Pan mae cristnogion yn dweud pethau fel hyn, yr awgrym wrth gwrs yw mai'r unig beth sy'n eu rhwystro rhag camymddwyn yw'r syniad bod Duw'n edrych arnynt ac nad ydynt eisiau ei bechu. Mae hynny'n golygu eu bod yn llai moesol na mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n llwyddo'n ddigon di-drafferth i fyw bywyd digon moesol er nad wyf yn credu bod yna oruchwyliwr cosmig yn cadw golwg arnaf. Y rheswm am hynny yw bod gennyf system foesoldeb aeddfed y mae modd ei egluro mewn termau seciwlar a rhesymegol.
Er ychydig o rwystredigaeth, fodd bynnag, bu i mi fwynhau'r profiad yn fawr. Roeddwn yn siomedig pan ddaeth y rhaglen i ben, oherwydd roedd gennyf lawer iawn mwy i'w ddweud. Byddwn yn hapus iawn i wneud y math yma o beth eto pe daw'r cyfle.
Anffyddiaeth
Tros Gymru heb ffydd, na lol afresymegol yn gyffredinol
16/06/2013
15/06/2013
Fi ar y radio
Byddaf yn westai byw ar Radio Cymru toc wedi 2pm yfory, ar raglen @ebion, yn dadlau o blaid priodasau cyfartal. Heb wneud y math yna o beth erioed o'r blaen, felly rwy'n edrych ymlaen!
tagiau:
cyfunrywioldeb,
cymru,
hawliau sifil,
y cyfryngau
02/06/2013
Araith Iolo Williams
Dyma araith danbaid ac emosiynol gan y naturiaethwr Iolo Williams. Mae'n werth gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am bolisïau amgylcheddol a chadwraethol, y gorffennol a'r presennol.
Mae'n anffodus iddo benderfynu siarad yn Saesneg am reswm mor wantan: rhag ofn iddo gael ei "gamddehongli". Mae hynny'n sarhaus iawn i'r cyfieithwyr, a dweud y lleiaf. Er hynny, mae'r araith yn un bwysig. Mae'n siwr mai Iolo yw naturiaethwr amlycaf Cymru, ac os mai dyma sut y mae'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloeddd gwledig, dylai pawb dalu sylw.

amgylcheddaeth,
cymru,
gwyddoniaeth,
yr iaith gymraeg
14/05/2013
Rhyfeddod o'r gofod
Mae Chris Hadfield ar ei ffordd adref ar hyn o bryd, ar ôl treulio'r chwe mis diwethaf yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Yn ystod y cyfnod hwnnw (ac yn ogystal â'i waith, wrth gwrs), bu'n cyhoeddi llawer o luniau hyfryd o'r ddaear fel yr isod.
Yn fwy na hynny, cyn gadael yr orsaf fe gafodd y syniad gwych o recordio fersiwn o Space Oddity gan David Bowie. Mae'n hollol fendigedig a theimladwy. A bod yn onest, rwy'n credu mai dyma un o'r pethau gorau a welais erioed:
Astronôt go iawn yn canu cân Bowie (yn y gofod!) a'i uwchlwytho i'w gyfrif YouTube (o'r gofod!). Mae'n siwr gen i mai dyma uchafbwynt y rhyngrwyd. Nid oes modd gwella hyn. Lawr allt fydd hi o hyn ymlaen.
Mae Hadfield yn dipyn o arwr yng Nghanada yn barod mae'n debyg. Mae'n llawn haeddu canmoliaeth: efallai ei fod wedi gwneud mwy i ysbrydoli ac i hyrwyddo gwyddoniaeth nag unrhyw berson arall neu raglen ddogfen ers blynyddoedd lawer.
tagiau:
gwyddoniaeth
23/03/2013
Hwyl am y tro
Peidiwch â dychryn gormod, ond bydd y blog yn segur am dros fis gan fy mod ar fin mynd i Las Vegas i briodi (seremoni seciwlar, wrth gwrs!) cyn crwydro o gwmpas California. Rwyf wedi bod eisiau ymweld â'r parthau hynny ers blynyddoedd, felly rwy'n edrych ymlaen yn arw.
Hwyl am y tro!
Hwyl am y tro!
Rhaid amddiffyn rhyddid mynegiant eithafwyr
Mae straeon fel hyn yn gwneud i mi deimlo'n rhwystredig iawn. Roedd mudiad cristnogol (rhagfarnllyd a dwl) am roi hysbyseb ar ochr bysiau yn Llundain gyda'r geiriau "Not Gay! Ex-Gay, Post-Gay and Proud. Get over it!", ond fe'i gwaharddwyd gan Transport For London. Mae'r Uchel Lys wedi dilysu'r gwaharddiad hwnnw.
Nid wyf am wastraffu amser yn beirniadu'r hysbyseb. Digon yw dweud ei fod yn gwbl wallgof; bydd darllenwyr y blog hwn yn gyfarwydd â'r hyn rwy'n ei feddwl o'r fath ragfarn ac anwybodaeth. Ond mae gwahardd pethau fel hyn yn anfoesol, er eu bod mor atgas. Y rheswm a roddwyd yw bod yr hysbyseb yn debygol o "achosi tramgwydd" i bobl. Mae hynny'n sicr yn wir: rwyf i fy hun yn cael fy ngwylltio gan y math yma o lol. Ond mae'n amherthnasol. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio.
Ymateb oedd yr hysbyseb i ymgyrch flaenorol gan Stonewall, gyda'i neges "Some people are gay. Get over it!". Mae'r geiriau yna'n rai clodwiw iawn, wrth reswm. Fodd bynnag, os caniatáu negeseuon gwleidyddol mewn hysbysebion fel hyn, ni ddylai fod gan y wladwriaeth hawl i wahaniaethu rhyngddynt (corff cyhoeddus yw TfL). Rhaid caniatáu'r cwbl. Mae hynny'n cynnwys negeseuon hiliol neu BNPaidd, gyda llaw. Dyma ystyr rhyddid.
Mae yna resymau ymarferol dros amddiffyn hyn yn ogystal â rhai moesol. Yn un peth, mae wedi golygu llawer iawn mwy o sylw i'r mudiad afiach yma a'u neges annifyr ac anghywir. Mae'n siwr eu bod yn ddigon bodlon â'r ffaith eu bod yn y newyddion (dyma effaith Streisand ar waith, yn y bôn). Yn waeth byth, maent yn sicr o fanteisio ar y cyfle i bortreadu'u hunain fel merthyron. Rwy'n cael trafferth meddwl am unrhyw beth mwy syrffedus na christion gorllewinol gyda persecution complex. Y peth olaf y dylem ei wneud yw cyfiawnhau eu cwynion.

crefydd,
cristnogaeth,
cyfunrywioldeb,
hawliau sifil,
prydain,
rhagfarn
21/03/2013
Ymateb i erthygl Harri Pritchard Jones am y cyn-Bab
(Yn rhifyn mis Mawrth o'r cylchgrawn Barn, mae gan Harri Pritchard Jones erthygl am ymddeoliad Joseph Ratzinger. Er iddo grybwyll rhai o safbwyntiau hyll y dyn hwnnw, a'r sgandal camdrin plant, roedd yr ysgrif yn or-hael a dweud y lleiaf. Ysgrifennais at Barn yn ymateb, ond yn anffodus nid oedd modd cyhoeddi fy llythyr ar gyfer y rhifyn nesaf. Gan fod gennyf flog, fodd bynnag, dyma'i atgynhyrchu isod)
Bu Harri Pritchard Jones yn rhy garedig o lawer yn
ei erthygl am ymddeoliad Joseph Ratzinger. Mae’n debyg bod y cyn-Bab yn ddyn
tawel ac addfwyn, a’n bïanydd medrus sy’n arbennig o hoff o Mozart. Nid oes
gennyf reswm i amau gwirionedd yr ychydig rinweddau hyn, ond maent yn dila a
chwbl amherthnasol o’u cymharu â holl gamweddau arswydus y dyn. Dengys hyn yn
eglur y cam a wneir â phawb gan y parch annhaeddiannol a roddir i grefydd gan
ein cymdeithas.
Mae bron pob un o bolisïau ac athrawiaethau Mr
Ratzinger a’i eglwys wedi bod yn niweidiol ac anfoesol, wrth gwrs. Byddai’n
ddigon anodd maddau’r homoffobia a’r misogynistiaeth canol-oesol, heb sôn am
effaith ei wrthwynebiad i’r defnydd o gondoms, sydd wedi arwain at filoedd ar
filoedd o farwolaethau di-angen o AIDS bob blwyddyn. Ond y gwaethaf un yw ei
ymateb cwbl ffiaidd i’r ffaith bod cannoedd o offeiriaid wedi bod wrthi’n
treisio plant ers degawdau. Mae hyn tu hwnt i anghytuno ynghylch materion cymdeithasol:
yn yr achos yma, y gwir plaen yw bod Mr Ratzinger wedi troseddu’n ddifrifol.
Swydd Mr Ratzinger cyn ei ddyrchafiad diwethaf oedd
Prif-Oruchwyliwr Athrawiaeth y Ffydd (pennaeth y Chwilys, i chi a fi; mae’r enw
wedi newid dros y canrifoedd, mewn ymdrech i swnio’n llai hunllefus). Yn y
cyfnod yma, rhwng 1981 a 2005, mae’n hysbys bod Mr Ratzinger wedi datgan ei
fwriad i esgymuno pobl o’r eglwys mewn cysylltiad â’r sgandalau ynghylch
camdrin plant. Byddai unrhyw un call yn tybio mai’r pedoffeiliaid eu hunain
oedd dan ei lach. Mewn gwirionedd, gorchymyn i gadw popeth yn gyfrinachol
ydoedd, ac i drin pob honiad o gamdrin yn fewnol: bygwth esgymuno unrhyw un a
feiddiai achwyn yn allanol (gan gynnwys wrth yr heddlu) oedd Ratzinger. Gwyddom
hyn â sicrwydd: mae ei lofnod ar y llythyrau. Iddo ef, ‘enw da’ yr eglwys oedd
y flaenoriaeth. Yn ôl y dyn hwn, roedd mynd at yr awdurdodau priodol yn waeth
trosedd o lawer na threisio plant yn y lle cyntaf. Mae yna enw ar gyfer y math
yma o beth: gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Diolch i Mr Ratzinger a’i debyg, mae gan yr Eglwys
Babyddol bolisi swyddogol o warchod treisiwyr plant. Mae’n amhosibl
gorbwysleisio pa mor anfoesol yw hyn. Nid yw cadw’n dawel am bedoffeiliaid,
bygwth eraill er mwyn eu cymell i wneud yr un peth, a symud yr euog i blwyf
arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blant, wrth reswm) fawr gwell na’r weithred
o gamdrin plant yn y lle cyntaf, os o gwbl.
Am y rhesymau hyn, hyd yn oed petai’n wir mai
Ratzinger yw’r creadur tyneraf i droedio’r byd erioed, ni fyddai’n newid y
ffaith bod gwir angen iddo dreulio’r ychydig einioes sydd ganddo’n weddill mewn
carchar. Byddai’n gwbl anghyfiawn, a’n sarhad creulon i filoedd o ddioddefwyr
sydd wedi bod trwy uffern, petai’r dihiryn gwarthus yma’n cael y fraint o
farw’n hamddenol heb orfod cydnabod ei droseddau.
tagiau:
crefydd,
cristnogaeth,
pabyddiaeth
06/03/2013
James Randi vs Uri Geller
Rwy'n mwynhau consurwyr (rwy'n gobeithio mynd i weld sioe fyw Penn & Teller yn fyw tra'n Las Vegas ddiwedd y mis), ac rwy'n hoff iawn o James "The Amazing" Randi yn arbennig. Yn ôl llawer o wybodusion y byd hud a lledrith, ef yw'r consuriwr gorau ers Houdini, ond yn ddiweddarach yn ei yrfa mae wedi dod yn fwyfwy adnabyddus fel sceptig sy'n herio "seicigiaid" a thwyllwyr eraill sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal.
Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar y pwnc. Fe ddarllenais The Faith Healers rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n disgrifio'n drwyadl iawn sut yr arferai "iachawyr ffydd" carismataidd fel Peter Popff flingo'u preiddiau trwy honni bod ganddynt y gallu i wella afiechydon ac anhwylderau trwy ras Duw. Roedd y dihirod yma'n defnyddio triciau digon sâl; yn achos Popoff, y ffefryn oedd teclyn radio yn ei glust er mwyn i'w wraig fwydo gwybodaeth am y gynulleidfa iddo! Roedd y ffenomen yma efallai yn ei anterth yn yr 1980au pan gyhoeddwyd y gyfrol, ac er bod ambell un o'r siarlataniaid yma wrthi o hyd, i Randi a'i debyg y mae llawer o'r diolch eu bod wedi colli cymaint o'u hygrededd.
Rwyf newydd ddarllen dwy gyfrol arall gan Randi: "Flim-Flam!" a "The Truth About Uri Geller". Pobl sy'n honni bod ganddynt bwerau "ESP" ("extra-sensory perception") sydd o dan sylw'n bennaf. Mae'r rhain yn mynnu eu bod yn gallu darllen meddyliau, neu'n haeru eu bod yn gallu canfod dŵr tanddaearol gyda darn o bren, neu'n gallu symud eitemau heb eu cyffwrdd ac ati. Eglura Randi'n ofalus nad oes y mymryn lleiaf o dystiolaethi i gefnogi'r fath honiadau, ac mae digon yn eu herbyn. Fel y dywed yr awdur, mae'r bobl yma'n syrthio i un o ddau gategori: mae rhai'n ddigon digywilydd a'n gwybod yn iawn eu bod yn twyllo, ond mae eraill wirioneddol yn credu bod ganddynt rhyw allu goruwchnaturiol. Mae rhywun bron â chydymdeimlo gyda'r ail grŵp ar adegau. Bron.
Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, casgliad o bobl od a gawn yn Flim-Flam! tra mae'r llall yn canolbwyntio ar un person yn arbennig. Roedd Uri Geller, y "plygwr llwyau", yn ei anterth ar y pryd (cyhoeddwyd y ddwy gyfrol yma'n wreiddiol yn y 1970au), ac mae'n amlwg bod Randi wedi cael llond bol. Efallai bod Geller yn dipyn o destun sbort erbyn hedddiw, felly mae'n hawdd anghofio pa mor boblogaidd ydoedd bedwar degawd yn ôl a chynifer oedd yn ei gymryd o ddifrif, gan gynnwys rhai gwyddonwyr. Byddai'n deg gofyn pam mae Randi'n pryderu gymaint am y mater: wedi'r cyfan, consuriwr ydyw yntau hefyd, sydd wedi gwneud bywiolaeth lwyddiannus trwy wneud triciau a "thwyllo" cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Randi a Geller, sef bod Randi'n cydnabod yn llawen mai triciau y mae'n eu cyflawni a dim byd arall. Mae Randi'n gallu efelychu "campau" Geller i gyd, ond fe ddyfeisiodd hwnnw stori ddwl am estroniaid a phlaned o'r enw Hoova mewn ymgais i ddarbwyllo pawb bod rhywbeth paranormal ar y gweill. Un broblem gyda hyn yn ôl Randi yw bod y fath ymddygiad yn di-raddio consuriaeth fel crefft, fel y dywed yn The Truth About Uri Geller:
Fel mae'n digwydd, mae Geller wedi rhoi'r gorau i ddweud bod ganddo allu paranormal erbyn hyn. Mae'n rhy hwyr i hynny, wrth gwrs, gan fod y difrod eisoes wedi'i wneud (mae'n rhyfeddol bod cymaint o arian wedi'i wastraffu'n astudio'r dyn, ). Cyn cyhoeddi'r llyfr, mae'n debyg bod Randi wedi rhoi'r cyfle i Geller gyfaddef y gwir a datgan mai ei fwriad oedd profi pa mor hawdd oedd twyllo'r cyfryngau. Fe wrthododd. Yn wir, fe gyhuddodd Randi o enllib (gan golli'r achos, wrth gwrs).
Gan fod seren Geller (a'r cymeriadau a ddisgrifir yn Flim-Flam!) wedi pylu gymaint erbyn hyn, efallai bod cyfeirio at y llyfrau yma heddiw'n swnio braidd fel defnyddio gordd i ladd gwybed. Hwyrach eu bod wedi dyddio rhyw fymryn. Ond er bod yr unigolion yma wedi mynd i ddifancoll, fwy neu lai, mae ofergoeledd, siwdowyddoniaeth a lol afresymegol yr un mor boblogaidd ag erioed. Rwy'n credu bod hynny'n golygu bod y llyfrau'n berthnasol iawn o hyd.
--------
*Rwy'n hoff iawn o'r stori am Houdini ac Arthur Conan Doyle, awdur straeon Sherlock Holmes. Roeddent yn gyfeillion ar un adeg, ond trodd bethau'n sur wedi i Doyle gael ei ddylanwadu gan bob math o syniadau ofergoelus ac ysbrydol dwl (fel tylwyth teg Cottingley). Hyd yn oed wedi i Houdini befformio tric i Doyle a dangos sut yn union y'i cyflawnodd, roedd Doyle yn gyndyn bod rhywbeth gwirioneddol gyfrin wedi digwydd (er mawr syrffed i Houdini). Mae'n ddiddorol cyferbynnu'r ddau ddyn. Roedd Houdini, yn union fel Randi, yn gonsuriwr a lledrithiwr proffesiynol a wnaeth ei fywoliaeth trwy "dwyllo" pobl er diddanwch, ond roedd yn sceptig cwbl resymegol yn ei fywyd pob dydd. Gwnaeth Doyle, ar y llaw arall, fywoliaeth trwy ddyfeisio'r cymeriad ffuglennol mwyaf rhesymegol a sceptigol yn holl hanes llenyddiaeth, ond eto roedd ef ei hun yn dipyn o lipryn ofergoelus a naïf. Rhyfedd.
Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar y pwnc. Fe ddarllenais The Faith Healers rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n disgrifio'n drwyadl iawn sut yr arferai "iachawyr ffydd" carismataidd fel Peter Popff flingo'u preiddiau trwy honni bod ganddynt y gallu i wella afiechydon ac anhwylderau trwy ras Duw. Roedd y dihirod yma'n defnyddio triciau digon sâl; yn achos Popoff, y ffefryn oedd teclyn radio yn ei glust er mwyn i'w wraig fwydo gwybodaeth am y gynulleidfa iddo! Roedd y ffenomen yma efallai yn ei anterth yn yr 1980au pan gyhoeddwyd y gyfrol, ac er bod ambell un o'r siarlataniaid yma wrthi o hyd, i Randi a'i debyg y mae llawer o'r diolch eu bod wedi colli cymaint o'u hygrededd. Rwyf newydd ddarllen dwy gyfrol arall gan Randi: "Flim-Flam!" a "The Truth About Uri Geller". Pobl sy'n honni bod ganddynt bwerau "ESP" ("extra-sensory perception") sydd o dan sylw'n bennaf. Mae'r rhain yn mynnu eu bod yn gallu darllen meddyliau, neu'n haeru eu bod yn gallu canfod dŵr tanddaearol gyda darn o bren, neu'n gallu symud eitemau heb eu cyffwrdd ac ati. Eglura Randi'n ofalus nad oes y mymryn lleiaf o dystiolaethi i gefnogi'r fath honiadau, ac mae digon yn eu herbyn. Fel y dywed yr awdur, mae'r bobl yma'n syrthio i un o ddau gategori: mae rhai'n ddigon digywilydd a'n gwybod yn iawn eu bod yn twyllo, ond mae eraill wirioneddol yn credu bod ganddynt rhyw allu goruwchnaturiol. Mae rhywun bron â chydymdeimlo gyda'r ail grŵp ar adegau. Bron.
Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, casgliad o bobl od a gawn yn Flim-Flam! tra mae'r llall yn canolbwyntio ar un person yn arbennig. Roedd Uri Geller, y "plygwr llwyau", yn ei anterth ar y pryd (cyhoeddwyd y ddwy gyfrol yma'n wreiddiol yn y 1970au), ac mae'n amlwg bod Randi wedi cael llond bol. Efallai bod Geller yn dipyn o destun sbort erbyn hedddiw, felly mae'n hawdd anghofio pa mor boblogaidd ydoedd bedwar degawd yn ôl a chynifer oedd yn ei gymryd o ddifrif, gan gynnwys rhai gwyddonwyr. Byddai'n deg gofyn pam mae Randi'n pryderu gymaint am y mater: wedi'r cyfan, consuriwr ydyw yntau hefyd, sydd wedi gwneud bywiolaeth lwyddiannus trwy wneud triciau a "thwyllo" cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Randi a Geller, sef bod Randi'n cydnabod yn llawen mai triciau y mae'n eu cyflawni a dim byd arall. Mae Randi'n gallu efelychu "campau" Geller i gyd, ond fe ddyfeisiodd hwnnw stori ddwl am estroniaid a phlaned o'r enw Hoova mewn ymgais i ddarbwyllo pawb bod rhywbeth paranormal ar y gweill. Un broblem gyda hyn yn ôl Randi yw bod y fath ymddygiad yn di-raddio consuriaeth fel crefft, fel y dywed yn The Truth About Uri Geller:I call upon the conjurors of the world to take a stand on this matter. I call upon the magical organizations that place so much value upon the preservation of their trade secrets to put as much value into their concern for the public they entertain, and to insist upon certain standards of truth from their members. I urge that we devote our efforts to the entertainment of our audience by means of subterfuge, but never the bilking or the condoning of the bilking of any person or group by means of our skills. I insist that magicians of standing take action on behalf of the uninitiated to protect them against charlatans who profess divine or supernatural powers. And, most of all, I ask my fellow-magicians to preserve the dignity and integrity of this craft we hold so sacred by standing up to be counted when that craft is threatened by those who would make of it a racket.Mae'r geiriau'n ddramatig, ond rwy'n cydymdeimlo. Mae Penn & Teller hefyd yn ddirmygus iawn o'r bobl yma, fel yr oedd Houdini* eu hun gynt. Nid dim ond consurwyr sy'n cael eu niweidio gan honiadau di-sail am bwerau paranormal chwaith. Mae'n hawdd gweld sut y gall dwyllwyr egotisaidd ddatblygu messiah complex, sy'n ffenomen hynod beryglus; mae pob arweinydd cwlt gwerth ei halen wedi meddu ar y gallu i gyflawni llond llaw o driciau hud a lledrith, wedi'r cyfan. Mae dweud bod gennych allu goruwchnaturiol hefyd yn ffordd effeithiol iawn o ddarbwyllo pobl anghenus a bregus i roi llawer iawn o arian i chi, fel y gwelwyd uchod yn achos Popoff a'i debyg (wrth i fri "iachawyr ffydd" ddirywio, mae seicigs sy'n honni eu bod yn gallu siarad â'r meirw wedi cynyddu mewn poblogrwydd i lenwi'r bwlch; maent yr un mor warthus). Ar ben hyn i gyd, mae gwirionedd yn bwysig ynddo'i hun. Fel y dywed Randi,
We oweat least that much to those whom we entertain. It is they who bring us that priceless commodity, applause, without which we wither and perish. And it is they who make it possible for us to make an enjoyable living that rewards us personally in so many ways other than money.
For we are the only element that stands between the faker and his victim. Men of science and other great intellects are without that peculiar expertise that qualifies us to detect chicanery when it is practiced on a high level. We are needed, and we must not only accept, we must lay claim to it
Acceptance of nonsense as a harmless aberration can be dangerous to all of us. We live in a society that is enlarging the boundaries of knowledge at an unprecedented rate, and we cannot keep up with much more than a small portion of what is made available to us. To mix that knowledge with childish notions of magic and fantasy is to cripple our perception of the world around us. We must reach for the truth, not for the ghosts of dead absurdities.Mae'r paragraff olaf yn y dyfyniad blaenorol yn arwyddocaol. Un thema gyson yn y llyfrau yw nad gwyddonwyr proffesiynol yw'r bobl orau bob tro i oruchwylio profion ar bobl sy'n honni bod ganddynt bwerau paranormal. Y rheswm am hyn, yn ôl Randi, yw eu bod yn haws i'w twyllo nag y byddai rhywun yn ei dybio. Mae'n debyg bod rhai o'r gwyddonwyr a astudiodd Geller wedi bod yn chwilio allan am laser cudd neu gemegyn dirgel neu bob math o dechnegau cyffrous eraill. Efallai eu bod braidd yn gaeth, yn eu ffordd o feddwl, i'w meysydd arbenigol, ac heb arfer â'r posibilrwydd bod goddrych yr astudiaeth yn bod yn fwriadol anonest. Fel y pwysleisia Randi, mae'r gwirionedd yn fwy diflas o lawer na'r hypotheses lliwgar hynny: fel arfer, swmp a sylwedd dull Geller yw plygu neu wahnau'r llwy neu'r allwedd gyda'i ddwylo neu'n erbyn bwrdd pan nad oes unrhyw un yn edrych. Ie, cyn symled â hynny. Gweler y fideo yma, er enghraifft; mae'n syfrdanol o ddigywilydd. Mae bron yn demtasiwn i edmygu'r ffasiwn chutzpah. Ond rwy'n credu dylai fod yn siom a rhwystredigaeth bod y gwirionedd mor ddi-nod, mor boring a mor dila: hyd yn oed petai Geller yn onest am yr hyn y mae'n ei wneud, ni fyddai ei act yn ddiddorol iawn o gwbl. Dywed Randi bod angen consuriwr yn bresennol er mwyn dal consuriwr arall allan, ac mae'n hawdd deall felly pam roedd Geller yn gwrthod perfformio'n llwyr os oedd Randi neu rywun tebyg o gwmpas i gadw llygad. Noda'r awdur hefyd ei fod wedi wynebu peth dirmyg gan y gwyddonwyr eu hunain; nid oedd llawer o'r rhain chwaith yn awyddus i'w gael yn bresennol, efallai am eu bod yn meddwl gormod o'u gallu eu hunain a'n ddilornus o allu unrhyw un nad oedd yn academydd i fod o unrhyw gymorth. Mae yna wers bwysig yn y fan yna.
Fel mae'n digwydd, mae Geller wedi rhoi'r gorau i ddweud bod ganddo allu paranormal erbyn hyn. Mae'n rhy hwyr i hynny, wrth gwrs, gan fod y difrod eisoes wedi'i wneud (mae'n rhyfeddol bod cymaint o arian wedi'i wastraffu'n astudio'r dyn, ). Cyn cyhoeddi'r llyfr, mae'n debyg bod Randi wedi rhoi'r cyfle i Geller gyfaddef y gwir a datgan mai ei fwriad oedd profi pa mor hawdd oedd twyllo'r cyfryngau. Fe wrthododd. Yn wir, fe gyhuddodd Randi o enllib (gan golli'r achos, wrth gwrs).
Gan fod seren Geller (a'r cymeriadau a ddisgrifir yn Flim-Flam!) wedi pylu gymaint erbyn hyn, efallai bod cyfeirio at y llyfrau yma heddiw'n swnio braidd fel defnyddio gordd i ladd gwybed. Hwyrach eu bod wedi dyddio rhyw fymryn. Ond er bod yr unigolion yma wedi mynd i ddifancoll, fwy neu lai, mae ofergoeledd, siwdowyddoniaeth a lol afresymegol yr un mor boblogaidd ag erioed. Rwy'n credu bod hynny'n golygu bod y llyfrau'n berthnasol iawn o hyd.
--------
*Rwy'n hoff iawn o'r stori am Houdini ac Arthur Conan Doyle, awdur straeon Sherlock Holmes. Roeddent yn gyfeillion ar un adeg, ond trodd bethau'n sur wedi i Doyle gael ei ddylanwadu gan bob math o syniadau ofergoelus ac ysbrydol dwl (fel tylwyth teg Cottingley). Hyd yn oed wedi i Houdini befformio tric i Doyle a dangos sut yn union y'i cyflawnodd, roedd Doyle yn gyndyn bod rhywbeth gwirioneddol gyfrin wedi digwydd (er mawr syrffed i Houdini). Mae'n ddiddorol cyferbynnu'r ddau ddyn. Roedd Houdini, yn union fel Randi, yn gonsuriwr a lledrithiwr proffesiynol a wnaeth ei fywoliaeth trwy "dwyllo" pobl er diddanwch, ond roedd yn sceptig cwbl resymegol yn ei fywyd pob dydd. Gwnaeth Doyle, ar y llaw arall, fywoliaeth trwy ddyfeisio'r cymeriad ffuglennol mwyaf rhesymegol a sceptigol yn holl hanes llenyddiaeth, ond eto roedd ef ei hun yn dipyn o lipryn ofergoelus a naïf. Rhyfedd.
tagiau:
credoau gwirion,
gwyddoniaeth,
llyfrau,
siwdo-wyddoniaeth
04/03/2013
Keith O'Brien
Mae wedi digwydd eto. Ar ôl i ffigwr crefyddol amlwg ddweud llawer o bethau creulon ac anghynnes am gyplau cyfunrywiol, daw'r newyddion ei fod ef ei hun yn hoyw. A bod yn fanylach, mae wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl iddo ddod yn hysbys ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol tuag at rai o'i gyd-offeiriaid. Mater o amser ydoedd, am wn i: fel mae'r wefan Gay Homophobe yn ei ddangos, mae'r math yma o beth yn digwydd yn syfrdanol o aml.
Bron y gallwch ddweud bod perthynas uniongyrchol rhwng eithafiaeth yr homoffobia a'r siawns bod y person sy'n ei arddangos yn ddryslyd ynghylch ei rywioldeb ei hun. Efallai mai modd o wadu'r dyheadau cyfunrywiol yma yw difrïo hoywon, ac o ddarbwyllo'u cyd-grefyddwyr eu bod yn driw i reolau'r ffydd wedi'r cyfan. Rwy'n credu ei bod yn debygol bod y rheolau hynny'n ffactor enfawr yn achos pabyddiaeth: mae'n hawdd gweld sut mae mynnu bod offeiriaid yn anghydweddog yn gallu arwain at rwystredigaeth rhywiol. Mae'n bosibl yn fy marn i bod perthynas rhwng hynny a'r sgandal camdrin plant.
Brysiaf i ddweud nad yw'r uchod yn awgrymu am eiliad bod gennyf y gronyn lleiaf o gydymdeimlad tuag at Keith O'Brien. Rwy'n ei gasáu â chas perffaith, fel yr wyf yn casáu pob pabydd blaenllaw.
Sylwch ar ei "ymddiheuriad" swyddogol: "To those I have offended, I apologise and ask forgiveness. To the Catholic Church and people of Scotland, I also apologise." Dim gair am y miloedd ar filoedd o gyplau cyfunrywiol y mae wedi'u sarhau mor fileinig, a'u defnyddio fel cocynnau hitio er mwyn ceisio ymdopi â'i angst personol. Arddangosodd ragrith a hyfrdra rhyfeddol wrth feiddio galw cyplau cyfunrywiol yn anfoesol, wedi iddo yntau'i hun blagio'i gyd-weithwyr yn rhywiol yn groes i'w dymuniad. Rwy'n gobeithio hefyd bod yr heddlu'n ymchwilio'r "inappropriate behaviour" a'r "unwanted behaviour" yma, beth bynnag oedd natur hynny. Nid wyf am ddal f'anadl, fodd bynnag, o ystyried record hir a chywilyddus yr eglwys babyddol o geisio ymateb i bethau fel hyn yn fewnol.
Gwynt teg ar ôl y mochyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei ymddygiad yn niweidiol iawn i'w eglwys.

duw,
pabyddiaeth
Subscribe to:
Posts (Atom)